Rydym am recriwtio Swyddog Cymunedau Gwledig i ymuno â'n Gwasanaeth Adfywio ac Economi ar gytundeb amser llawn am dymor penodol, wedi’i leoli yn ein swyddfa yn Aberaeron.
Mae hon yn rôl gyffrous yn y gwasanaeth gan roi cyfle i ysbrydoli datblygiad gweithgaredd LEADER arloesol, sydd wedi’i arwain gan y gymuned, ar draws Ceredigion. Os oes gennych brofiad mewn meysydd fel adfywio, gwaith cymunedol neu ddatblygu economaidd, gallai hyn fod yn gyfle i chi. Bydd gennych rôl ganolog wrth ysgogi cymunedau gwledig Ceredigion, i gynyddu eu gallu i adeiladu gwybodaeth a sgiliau, arloesi a chydweithredu er mwyn goresgyn heriau lleol. Mae’r tasgau a’r llwyth gwaith yn newid o hyd, ac rydym yn chwilio am y sawl all feddwl yn arloesol ac ymateb yn bositif i heriau trwy gynnig atebion. Mae gennych nawr y cyfle i helpu i lunio dyfodol ein sir.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
Rydym am recriwtio unigolyn gyda:
Ariennir y swydd hon drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Meleri.richards@ceredigion.gov.uk
Cynhelir cyfweliadau: 03/08/2021
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.