Lleoliad: Ysgol Bro Teifi
Cyflog: GBP 23,720 - GBP 39,406
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Llawn amser
Athro/ Athrawes yn y Gyfadran Wyddoniaeth
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Bro Teifi yn awyddus i apwyntio athro / athrawes brwdfrydig ac ymroddgar i ymuno a chyfadran Wyddoniaeth yr Ysgol. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu Gwyddoniaeth ar draws CA3 a CA4 ac hefyd Cemeg Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.
Mae gennym ddisgwyliadau uchel iawn o'n holl fyfyrwyr ac mae'r ysgol yn ymfalchio yn ei hethos Gymreig.
Mae'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Os am drafodaeth anffurfiol yngl?n a'r swydd hon, cysylltwch a Phennaeth Dros-Dro Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost at Gareth.Evans@broteifi.ceredigion.sch.uk
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a bydd yr ysgol yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i Wasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel a phosibl. Mae ein hysgolion wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn pob plentyn, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu'u lles a chydnabod eu hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi gan ethos cyffredinol yr holl ysgolion.
Swydd Disgrifiad