Below is information about the above role where the ability to communicate through the medium of Welsh is essential.
Part- time Teaching Assistant Level 1 (0.5- maternity cover)
Nifer disgyblion ar y gofrestr: 74 (Oedrannau 4-11)
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Cei Newydd benodi Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Un Rhan-amser (0.5) dros gyfnod mamolaeth i gefnogi disgybl yn nosbarth Cyfnod Allweddol 2. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a hyblyg fydd yn llwyr ymrwymedig i bob agwedd o fywyd yr ysgol. Yn ddelfrydol, mi fyddwch a phrofiad diweddar o weithio mewn ysgol gynradd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel a phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Os am ragor o wybodaeth neu am drefnu ymweliad a'r ysgol, mae croeso i chi gysylltu a'r Pennaeth, Mrs Caryl Evans ar 01545 560363.
e-bost: prif@ceinewydd.ceredigion.sch.uk
Cyfweliadau: 19eg o Dachwedd 2019.