The following is an advert for a full time, permanent teacher where the ability to converse through the medium of Welsh and English is essential.
Gwahoddwn geisiadau wrth athrawon gwych gyda’r ymroddiad, yr ysfa a’r angerdd i ysgogi pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial o fewn amgylchfyd gefnogol academaidd. Byddai croeso i geisiadau wrth athrawon newydd gymhwyso a fydd yn ymgymryd â rhaglen gynefino effeithiol a chefnogol yr ysgol.
Mae Ysgol Uwchradd Aberteifi yn ysgol uwchradd ffyniannus a dedwydd i blant 11-19 oed yng Ngorllewin hyfryd Cymru, mewn ethos weithgar, ofalgar a threfnus gyda disgwyliadau uchelgeisiol wrth ddisgyblion a staff. Mae’r disgyblion yn weithgar, ac fe’u cefnogir nhw gan dîm o staff rhagorol sydd â’u bryd ar sicrhau cynnydd parhaus mewn awyrgylch bositif o ‘galla’i wneud hyn’. Mae’r ysgol felly’n bleser i weithio a dysgu ynddi, gyda chanlyniadau da iawn.
Pam ddylech chi ddod yn athro i Ysgol Uwchradd Aberteifi? Rhoddwn:
Os credwch fod gennych y sgiliau, egni a’r profiad ar gyfer y swydd hon, byddem wrth ein bodd i dderbyn eich cais. Mae Ysgol Uwchradd Aberteifi’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifainc a disgwylir hyn wrth bob aelod o staff hefyd.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr fynd drwy’r Uwch broses GDG.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi/phenodi i'r swydd hon.
For detailed information on this role, please refer to the Job Description.
Job Description
Note: We reserve the right to extend the application closing date
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.