The following is an advert for the post of a full time KS2 Teacher where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes ragorol i addysgu yn adran Cyfnod Allweddol 2. Ysgol gymunedol cyfrwng Cymraeg yw Aberporth, sydd yn mwynhau golygfeydd godidog o arfordir Ceredigion. Mae’n gymuned addysgu ofalgar, fyrlymus a chynhwysol sydd yn sicrhau bod disgyblion yn teimlo’n hapus a diogel. Mae’r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn ac maent yn gwrtais a pharchus tuag at ei gilydd a thuag at oedolion gan ryngweithio’n hynod effeithiol.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon blaengar a brwdfrydig sydd â dealltwriaeth a phrofiad addas o ddarparu cwricwlwm llwyddiannus ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2. Mae’n hanfodol bod gennych ddealltwriaeth gadarn o egwyddorion y Cyfnod Sylfaen gan eu bod yn treuddio trwy holl ddosbarthiadau’r ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyd-weithio’n agos gydag athrawon eraill ar draws yr ysgol, i ddatblygu profiadau dysgu sy’n ateb anghenion lles ac addysgol y disgyblion yn llawn, trwy anelu at wireddu 4 diben craidd y Cwricwlwm i Gymru. Byddai’r gallu a’r parodrwydd i ddatblygu chwaraeon neu gerddoriaeth yn fanteisiol ond nid yw’n angenrheidiol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd hon.
Mae’r swydd hon dros dro am flwyddyn yn y lle cyntaf.
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn ac fe fydd yr ysgol yn gofyn am gofnod manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, SCT gynt (Enhanced DBS formerly CRB).
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth Mr Eirwyn Griffiths ar 07474 028569.
The successful applicant will need to register with the Education Workforce Council in order to be appointed to this post.
Job Description
Note: We reserve the right to extend the application closing date.
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.