The following is an advert for a temporary Teaching Assistant Level 1 (maternity cover) where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Mae Ysgol Gynradd Talybont am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1 i’n cynorthwyo i gefnogi a darparu dysgu dros gyfnod mamolaeth.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i gynorthwyo gyda disgyblion sydd wedi eu hadnabod gydag anghenion ychwanegol i’r dosbarth. Byddwn yn ystyried pob cais yn fanwl iawn ond byddai profiad blaenorol o weithio yn y maes yn fanteisiol iawn a dealltwriaeth o raglenni hyfforddiant perthnasol hefyd yn fanteisiol iawn (TRANDEP, SATPIN, Cyfri Ceredigion, ayyb).
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Yn eisiau erbyn 01/03/2021 i weithio 12 awr yr wythnos – Dydd Llun a Dydd Mawrth.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth Mr H Jones neu’r Pennaeth Cynorthwyol Miss Sioned Morris (01970) 832276.
Mae’r ysgol wedi ymwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn ac fe fydd yr ysgol yn gofyn am gofnod manylach y Swyddfa Cofnodion Troseddol (Enhanced CRB).
Dyddiad Cau: 23 Ionawr 2021
Rydym yn gobeithio cynnal y cyfweliadau yn fuan iawn wedi’r dyddiad cau.
Note: We reserve the right to extend the application closing date.
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.