The following is an advertisement for a temporary – Key Stage 2 teacher where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae Ysgol Gynradd Rhos Helyg yn ysgol 4 – 11 oed, gyda 65 o ddisgyblion ar ddau gampws – Campws Rhos y Wlad, Bronant a Champws Llangeitho. Mae’r ysgol yn darparu cyfle gwych i ymgeiswyr goleuedig gyd-weithio ar draws y ddau gampws gan rannu arbenigeddau a phrofiadau.
Mae'r swydd wag hon yn un cyfnod penodol i ddechrau mor fuan â phosib tan diwedd flwyddyn academaidd 2021-22, gyda phosibilrwydd o estyniad.
Ein gweledigaeth yw: darparu cwricwlwm eang, diddorol ac ysbrydoledig er mwyn datblygu dysgwyr annibynnol, effeithiol, brwdfrydig, dwyieithog, a’u paratoi i fod yn ddysgwyr gydol oes.
Mae'r Llywodraethwyr am benodi:
Athro/athrawes effeithiol, ysbrydoledig a brwdfrydig i ddechrau mor fuan â phosib. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i ddatblygu pob disgybl hyd eithaf ei (g)allu. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymarferydd ardderchog o fewn y dosbarth gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i gynnal a chodi safonau. Bydd y gallu i gydweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ymroddgar mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni, y llywodraethwyr a'r gymuned leol yn hanfodol.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi/phenodi i'r swydd hon.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Dros Dro Ysgol Rhos Helyg, Mr Huw Davies ar 01974 251238 neu 01974 821615.
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn ac fe fydd yr ysgol yn gofyn am gofnod manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, SCT gynt (Enhanced DBS formerly CRB).
Note: We reserve the right to extend the application closing date.
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.