Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymfalchio mewn cynnig darpariaeth addysgol o'r safon uchaf ac felly rydyn ni'n chwilio am athrawon ysgogol ac effeithiol i ychwanegu at ein cofrestr gyflenwi ganolog.
Cydnabyddir bod athrawon cyflenwi yn hynod o bwysig er mwyn sicrhau parhad addysgu a dysgu effeithiol yn ystod absenoldeb staff. Gall gwaith cyflenwi ddarparu cyfle gwych i athrawon sy'n dymuno mwy o hyblygrwydd neu sydd newydd gymhwyso ac am ennill profiad ymarferol.
Rydym yn chwilio am athrawon sy'n:
Cefnogir hyn trwy ethos cyffredinol Cyngor Sir Ceredigion a phob un o'n hysgolion ac felly rhaid i bob aelod staff sydd yn gweithio mewn ysgol gwblhau fodiwl e-ddysgu Diogelu Plant Lefel 1 ynghyd â bod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Daniel Davies ar Daniel.Davies@ceredigion.gov.uk.
Mae hon yn ymgyrch recriwtio barhaus ac o ganlyniad nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar hyn o bryd.
Bydd y ceisiadau a gyflwynir yn cael eu hystyried yn gyfnodol.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel a phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.