This advert is for the post of a full time Teaching Assistant Level 1 (for two terms) where the ability to converse through the medium of Welsh and English is desirable.
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Ciliau Parc benodi Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1 i gynorthwyo disgyblion mewn dosbarthiadau oed cymysg. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a hyblyg fydd yn llwyr ymrwymedig i bob agwedd o fywyd yr ysgol. Yn ddelfrydol, mi fyddwch a phrofiad diweddar o weithio mewn ysgol gynradd.Mae'r gallu i gyfathrebu trwy'r Gymraeg a'r Saesneg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Os am ragor o wybodaeth neu am drefnu ymweliad a'r ysgol, mae croeso i chi gysylltu a'r Pennaeth, Mrs Carys Lewis ar 01545 470 650 neu drwy e-bost ar prif@ciliauparc.ceredigion.sch.uk
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi/ ei phenodi i'r swydd hon.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel a phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Cyfweliadau: 25ain o Chwefror 2020