The following is an advert for a Headteacher where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Yr ydym am recriwtio Pennaeth Dros Dro (am Gyfnod Mamolaeth) yn bendant erbyn Mehefin 7fed, ond gallai dibynnu ar ganllawiau COVID-19 fod cyn hyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn ymroddedig a brwdfrydig gyda sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth gref i arwain ac adeiladu ar lwyddiant partneriaeth y ddwy ysgol hapus a gofalgar. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth ar draws y ddwy ysgol er mwyn cynnal llwyddiant a sicrhau addysg o ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl a pharhau i godi safonau cyflawniad. Mi fydd gan y Pennaeth ymrwymiad dysgu o tua 0.3.
Mae Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch yn gweithio mewn ffederaliaeth o dan ofalaeth un corff llywodraethol. Mae arfer gref o gynllunio gweledigaeth ar y cyd wedi sefydlu o dan y Pennaeth presennol, ac mae disgyblion a staff yn elwa o rannu profiadau, diddordebau ac arbenigedd. Gwasanaetha’r ddwy'r ardal gyfagos iddynt yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif iaith y ddwy ysgol. Mae oddeutu 100 disgybl ar gofrestr Penrhyn-coch a 42 disgybl ar gofrestr Ysgol Penllwyn rhwng 4 ac 11 oed. Rhennir disgyblion yn 4 dosbarth yn Ysgol Penrhyn-coch a 2 ddosbarth yn Ysgol Penllwyn.
Yr ydym yn awyddus i sicrhau fod yr ysgolion yn parhau i ffynnu a manteisio ar gyfleoedd y dyfodol. Yr ydym am benodi unigolyn profiadol gyda nodweddion arwain a rheoli ardderchog a fydd yn:
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar:
Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Ms Catryn Lawrence, Pennaeth ar prif@penrhyncoch.ceredigion.uk, Mr Rob Mills, Cadeirydd y Llywodraethwyr, ar MillsR43@Hwbcymru.net, neu Mr Dafydd Iolo Davies, Ymgynghorydd Her yr ysgol ar Dafydd.IoloDavies@ceredigion.gov.uk.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31/01/2021.
Mae’n ddymunol i ymgeiswyr sydd yn ceisio am eu swydd gyntaf fel Pennaeth feddu ar, neu fod yn ymgymryd â chymhwyster CPCP (Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth). Fodd bynnag, mae’r corff llywodraethwyr yn fodlon ystyried ceisiadau o athrawon brwdfrydig sy’n awyddus i dderbyn secondiad i’r ysgol er mwyn datblygu ei gyrfa ymhellach.
Mae’r hysbyseb yma ar gyfer swydd Pennaeth Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn ac mae’n hanfodol bod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Person Specification
Note: We reserve the right to extend the application closing date
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.