The following is an advert for an Admin Level 1 where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Llanarth yn awyddus i benodi person gweithgar, brwdfrydig ac egnïol i ymuno a chorff staff gweinyddol yr ysgol fel swyddog gweinyddol Lefel 1. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i gydweithio yn effeithiol fel rhan o dim profiadol ac i sicrhau ymagwedd broffesiynol ar bob adeg.
Mae Ysgol Llanarth yn gymuned gynhwysol a gofalgar sy’n ymfalchïo yn ei hethos Gymreig.
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cytundeb blwyddyn yn y man cyntaf yw'r swydd hon yn gweithio adeg tymor yn unig.
Os am drafodaeth anffurfiol ynglyn â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth yr ysgol, Miss Manon Lewis drwy e-bost at prif@llanarth.ceredigion.sch.uk
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn a bydd yr ysgol yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.