The following is an advert for a Teacher (food and nutrition / design and technology) where the ability to converse through the medium of Welsh and English is essential.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar i ymuno â chyfadran Technoleg a Thechnoleg Gwybodaeth yr ysgol. Dyma gyfle arbennig i weithio mewn cyfadran flaengar sy’n gwneud cyfraniad arbennig i fywyd a gwaith yr ysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Agorwyd Ysgol Bro Teifi ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf. Y mae gan yr adran hon yr adnoddau diweddaraf er mwyn diwallu anghenion dysgu ar draws yr ystod oed a gellir trefnu taith rhithiol o gwmpas yr ystafelloedd perthnasol i ddarpar ymgeiswyr. Mewn arolwg Estyn (Chwefror 2019) nodwyd fod ‘Ysgol Bro Teifi yn gymuned gynhwysol iawn, hynod ofalgar a Chymreig. Yn greiddiol i’w gwaith mae ei darpariaeth arbennig ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad sy’n cydweddu ag arwyddair yr ysgol, oni heuir ni fedir.’ Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae 941 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda 384 o oedran cynradd a 557 o oedran uwchradd, gyda 93 o’r rhain yn y chweched dosbarth.
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Robert Jenkins ar 01559 362503 neu drwy e-bost, robert.jenkins@broteifi.ceredigion.sch.uk.
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn a bydd yr ysgol yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Disgrifiad Swydd
Note: We reserve the right to extend the application closing date.
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.