The following is for a Teaching Assistant Level 1 where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Cytundeb: Swydd llawn amser tan ddiwedd y flwyddyn academaidd - 16/07/21 yn gampws Llangeitho.
Mae'r Llywodraethwyr am benodi: Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 i gydweithio’n agos gyda’r athrawon dosbarth wrth addysgu dosbarth a grwpiau 4 – 7 oed. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda grwpiau ac unigolion er mwyn sicrhau lles a chynnydd pob disgybl.
Mae Ysgol Gynradd Rhos Helyg yn ysgol 4 – 11 oed, gyda 63 o ddisgyblion ar ddau gampws – Campws Rhos y Wlad, Bronnant a Champws Llangeitho.
Ein gweledigaeth yw: darparu cwricwlwm eang, diddorol ac ysbrydoledig er mwyn datblygu dysgwyr annibynnol, effeithiol, brwdfrydig, dwyieithog, a’u paratoi i fod yn ddysgwyr gydol oes.
Fe fydd gofyn i chi:
Rydym am benodi unigolyn sydd â:
Fe fydd yr ymgeisydd perffaith yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu’r disgyblion.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi/phenodi i’r swydd hon.
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn ac fe fydd yr ysgol yn gofyn am gofnod manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, SCT gynt (Enhanced DBS formerly CRB).
Dyddiad cyfweliad: I’w gadarnhau.
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Dros dro Ysgol Rhos Helyg Mr Huw Davies: h.davies14@rhoshelyg.ceredigion.sch.uk
Job Description and Person Specification
Note: We reserve the right to extend the application closing date.
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.