The following is an advert for a Deputy Headteacher where the ability to converse through the medium of Welsh and English is essential.
Yn eisiau o fis Medi 2021 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny.
Cyfle euraidd i weithio yn un o drefi glan môr mwyaf deniadol Cymru.
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Aberaeron yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i'r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli'r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithredu ar amserlen dysgu hanner amser er mwyn caniatáu amser digonol i gyflawni dyletswyddau rheolaethol a fydd ynghlwm â’r swydd.
Dylai’r unigolyn feddu ar gymhwyster rheolaeth ganol ynghyd ag arbenigedd yn y Cyfnod Sylfaen.
Mae Ysgol Gynradd Aberaeron yn ysgol gynradd lwyddiannus, Adroddodd Estyn yn 2019:
“Mae’r athrawon a’r cymorthyddion yn weithgar iawn ac yn cynllunio profiadau dysgu arloesol ac ysgogol ar gyfer y disgyblion. Maent yn cynnwys llais y disgybl yn effeithiol dros ben wrth gynllunio gweithgareddau sy’n sbarduno cwricwlwm trawiadol a chyffrous. Maent yn gofalu’n deyrngar iawn am eu disgyblion ac yn cynnig arweiniad a chymorth sy’n hynod o ddibynadwy iddynt.
Mae gan y pennaeth dylanwadol ddealltwriaeth gadarn iawn o anghenion yr ysgol. Mae hi’n cydweithio’n ddiwyd iawn gyda’r uwch dîm rheoli cadarn a’r llywodraethwyr ymroddgar. O ganlyniad, maent yn adeiladu ar gryfderau’r ysgol yn ganmoladwy ac yn gwella’r meysydd i’w datblygu yn ddoeth, trwy weithdrefnau gwella ansawdd cywrain a manwl”
Fe fydd yr unigolyn yn :
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
Mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda’r ysgol i drafod ymhellach ar y rhif ffôn canlynol 01545570313
Dyddiad cau : 20/6/2021
Cyfweliadau : 24/6/2021
Hysbyseb am Ddirprwy Bennaeth i Ysgol Gynradd Aberaeron yw hon, ac mae'n ofynnol i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar gyfer y swydd.
Noder: Cedwir yr hawl i newid dyddiad cau y swydd
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)