skip to job profile
skip to job details
Job Application Portal
Login
My Applications
My Profile
Unfortunately, this vacancy has now closed. Other suitable opportunities may be available, please use the 'Search for jobs' page to see a list of our current vacancies.
Job profile
The job requirements are detailed below. Where applicable the skills, qualifications and memberships required for this job have also been included.
Job details
Job details
Job reference
REQ102121
Date posted
11/02/2020
Application closing date
09/03/2020
Location
Blank
Contractual hours
Blank
Basis
Blank
Job category/type
Education
Attachments
Blank
Deputy Headteacher - Ysgol Bro Pedr
Job description
Below is information about the above role where the ability to communicate through the medium of Welsh is essential.
Yn sgil ymddiswyddiad diweddar ein Dirprwy Bennaeth, yn dilyn dros 30 o flynyddoedd o wasanaeth i'r Ysgol, mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Pedr yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth
i'r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli'r Ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon. Croesawir ceisiadau gan ymarferwyr cynradd, uwchradd ac ysgolion Gydol Oes ar gyfer y swydd yma.
Mae Ysgol Bro Pedr yn Ysgol Gydol Oes, 3-19, lwyddiannus, gyda nifer arwyddocaol o ddisgyblion ar y gofrestr a'r Saesneg yn Iaith Ychwanegol iddynt. Mae'r Ysgol yn ysgol categori melyn B (Ionawr 2020). Derbyniwyd cadarnhad wrth ALPS bod canlyniadau Safon Uwch Bro Pedr yn y 25% uchaf ym Mhrydain (tair blynedd ddiwethaf) yn Rhagfyr 2019. Dyfarnwyd yr Ysgol yn dda ym mhob agwedd yn dilyn ymweliad ESTYN yn Hydref 2016.
Adroddodd Estyn yn 2016: "Mae Ysgol Bro Pedr yn ysgol hapus sydd ag ethos gofalgar a chefnogol. Mae iddi gymeriad Cymreig naturiol ac mae hefyd yn adlewyrchu'r gymuned amlddiwylliannol. Mae'n gweithio'n llwyddiannus i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth disgyblion o amrywiaeth". Pwysleisiodd Estyn hefyd: "Mae'r staff yn cydweithio'n briodol fel tim ac yn darparu cyfleoedd effeithiol i'r disgyblion ddysgu", gan ddweud am arweinyddiaeth yr Ysgol: "Mae gan y pennaeth ddisgwyliadau uchel a gweledigaeth glir ar gyfer datblygu'r ysgol, sy'n seiliedig ar sicrhau safonau uchel a lles disgyblion. Mae'n llwyddo i gyfleu ei gweledigaeth yn effeithiol i'r staff, y disgyblion, y llywodraethwyr a'r rhieni. Caiff y pennaeth ei chefnogi'n effeithiol gan aelodau'r uwch dim rheoli".
Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn profiadol sy'n meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth ragorol ac a fydd yn:
hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb;
dylanwadu ar gydweithwyr trwy osod esiampl fel model rol trefnus a chydwybodol;
ymgynghori a chynnig cyngor adeiladol i'r Pennaeth mewn meysydd a fyddai'n fanteisiol i'r ysgol;
cysylltu a staff, disgyblion a rhieni i annog ethos gwaith effeithiol;
bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy'n codi.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
gweledigaeth a rennir ar gyfer datblygu'r ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy'n rhoi lle canolog i'r gymuned;
dealltwriaeth o arferion dysgu ac addysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i'w datblygu drwy'r ysgol gyfan;
medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu;
gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol;
ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tim;
ymrwymiad cryf i gyfoethogi'r cysylltiadau gyda'r Llywodraethwyr, y gymuned leol ac ysgolion lleol.
Mae croeso cynnes i chi ymweld a'r ysgol. Gofynnir i chi wneud trefniadau drwy gysylltu a'r ysgol ar y rhif ffon canlynol 01570 422214.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi/phenodi i'r swydd hon.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel a phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Job Description and Person Specification
Job title