Lleoliad: Ysgol Bro TeifiCyflog: GBP 16,495 (pro rata)Cytundeb: wrth gefn
Rydym yn ceisio ehangu ein cronfa o oruchwylwyr arholiadau. Mae'r swydd yn cynnwys goruchwylio arholiadau ar gyfer Blynyddoedd 9 i 13, gan sicrhau bod yr holl reolau ar gyfer arholiadau yn cael eu dilyn. Nid oes oriau penodol ond mae prif cyfnodau'r arholiadau ym mis Ionawr, Mai, Mehefin a Tachwedd. Mae diwrnodau gwaith ac oriau yn hyblyg. Nid oes angen profiad gan fod hyfforddiant ar gael.
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a bydd yr ysgol yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i Wasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel a phosibl. Mae ein hysgolion wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn pob plentyn, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu'u lles a chydnabod eu hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi gan ethos cyffredinol yr holl ysgolion.