The following is an advert for a temporary teacher (maternity cover) where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon brwdfrydig, blaengar ac ysbrydoledig am swydd ddysgu yng Nghyfnod Allweddol 2 (Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6) yn Ysgol Gynradd Felinfach.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gallu creu cyfleoedd dysgu cyffrous a diddorol ar draws yr ystod gallu ac i gyfrannu i'r ethos tim cryf sydd yn nodwedd o'r ysgol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymarferydd ardderchog o fewn y dosbarth gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i godi safonau. Mi fydd y gallu i fod yn hyblyg ac i weithio’n effeithiol fel rhan o d?m ynghyd â’r parodrwydd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd yma.
Mae'r oriau ar gyfer y swydd hon yn llawn amser, ond ystyrir rhannu swydd.
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn a bydd yr ysgol yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu a’r Pennaeth Mrs Non McEvoy drwy ebost: prif@felinfach.ceredigion.sch.uk.
The successful applicant will need to register with the Education Workforce Council in order to be appointed to this post.
Note: We reserve the right to extend the application closing date.
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.