The following is an advert for an Assistant Headteacher - Safeguarding and Welfare where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Mae Penweddig yn ysgol lwyddiannus, sydd â hanes o welliant a datblygiad. Mae nifer sylweddol o’n disgyblion yn sicrhau canlyniadau TGAU a Lefel A sydd yn uwch nag ysgolion cyffelyb. Mae ymddygiad ein disgyblion yn dda iawn, ac mae ganddynt ymagwedd bositif ac ysgogol at ddysgu. Cyniga’r ysgol gwricwlwm eang a chytbwys gydag ystod gyfoethog o weithgareddau allgyrsiol. Mae Penweddig yn ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol.
Yn eisiau erbyn Medi 2021 person cymwys a phrofiadol ac sydd a chefndir cryf o lwyddiant i gymryd rôl arweiniol yn yr ysgol lwyddiannus hon.
Mae’r swydd yn cynnig cyfle ardderchog i chwarae rhan lawn yn natblygiad strategol yr ysgol fel aelod o’r Tim Arwain, ac i gyfrannu at amryw agweddau o fywyd yr ysgol flaenllaw a blaengar hon. Deiliad y swydd hon fydd person dynodedig yr ysgol gyda chyfrifoldeb am ddiogelu.
Lleolir Penweddig yn un o drefi mwyaf diwylliannol a hanesyddol Cymru ac mae sir Ceredigion yn cynnig ansawdd byw o'r lefel uchaf, yn ogystal a bod yn un o'r siroedd harddaf o ran tirwedd yng Nghymru.
Os am wybodaeth bellach neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r Pennaeth, Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Ffordd Llanbadarn, Llangawsai, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3QN (Ffôn: (01970) 639499 e-bost: ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk)
Job Description and Person Specification
Note: We reserve the right to extend the application closing date.
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.