Rydym yn awyddus i recriwtio glanhawr/glanhawraig wrth gefn i ymgymryd â'r amrywiol gyfrifoldebau glanhau o fewn safle'r Cyngor ar draws Ceredigion i sicrhau eu bod yn cael eu cadw mewn cyflwr glân a llanwedd.
Mae'r gwasanaeth glanhau yn darparu gwasanaeth hanfodol o fewn Sir Ceredigion. Pwrpas y rôl yw cyflawni tasgau glanhau a ddarparu gwasanaeth o safon uchel gan sicrhau amgylchedd diogel a hylan.
Mae gennym swyddi gwag ledled y Sir ac yn cwmpasu cymunedau Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi, Llambed a Thregaron, heb eithrio pentrefi eraill yn yr ardaloedd hyn. Rydym yn cynnig oriau amrywiol, gyda’r oriau a diwrnodau gwaith i’w gadarnhau.
Er y byddai profiad a gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch yn fanteisiol, bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig am natur y gwaith. Mae'n rhaid i'r unigolyn feddu ar sgiliau cyfathrebu da a rhaid iddynt allu cyflawni gwahanol ddyletswyddau gydag amserlen waith amrywiol.
Fydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ddigon hyblyg i weithio mewn unrhyw lleoliad gwaith a’r oriau a weithir, a all gynnwys boreau cynnar neu nosweithiau.
Bydd angen gwiriad gan y gwasanaeth datgelu a gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon.
Fydd tasgau sylfaenol ar gyfer y rôl hon yn cynnwys:
Glanhau, golchi, ysgubo, glanhau gwactod, gwagio biniau sbwriel, sychu lleithder a thynnu mannau dynodedig (a allai gynnwys toiledau a chawodydd) a gosodion a ffitiadau, gan ddefnyddio'r offer pwer angenrheidiol lle bo'n briodol.
Nodwch y bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau iaith Gymraeg gofynnol yn cael cymorth llawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd i'w benodi.
Am ragor o wybodaeth am y rôl yma, darllenwch y disgrifiad swydd a’r manyleb person.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn oedolion mewn perygl a phlant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi oedolion mewn perygl, plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod eu hawl i gael eu diogelu a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd arnom angen Gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt cyn penodi i'r sywydd hon.