The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Yr ydym am recriwitio Pennaeth Dros Dro (am dymor yn unig yn y lle cyntaf) ar gyfer 1af o Fedi, 2020 (neu mor fuan â phosib ar ôl hynny).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn ymroddedig a brwdfrydig gyda sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth gref i arwain ac adeiladu ar lwyddiant ac enw da ein hysgol hapus a gofalgar. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth i’r ysgol er mwyn cynnal llwyddiant a sicrhau addysg o ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl a pharhau i godi safonau cyflawniad. Mi fydd gan y Pennaeth ymrwymiad dysgu o tua 0.8.
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llannon yn gwasanaethu’r ardal gyfagos yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif iaith yr ysgol. Mae oddeutu 33 disgybl ar y gofrestr rhwng 4 ac 11 oed, wedi eu trefnu’n ddau ddosbarth.
Yr ydym yn awyddus i sicrhau fod yr ysgol yn parhau i ffynnu a manteisio ar gyfleoedd y dyfodol. Yr ydym am benodi unigolyn profiadol gyda nodweddion arwain a rheoli ardderchog a fydd yn:
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar:
Os am drafodaeth anffurfiol ynglyn â’r swydd hon, cysylltwch â Chadeirydd y Llywodraethwyr, Mr Dylan WIlliams, ar 07971 043196 (e-bost WilliamsD1269@hwbcymru.net); neu Mrs Elen Davies, Ymgynghorydd Her yr ysgol ar 07970 000479 (e-bost elen.gwenllian.davies@ceredigion.gov.uk).
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul, 9fed o Awst, 2020.
Dyddiad cyfweliad rhithiol: Dydd Gwener, 14eg o Awst, 2020 (gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y dyddiad hwn)
Mae’n rhaid i ymgeiswyr sydd yn ceisio am eu swydd gyntaf fel Pennaeth feddu ar gymhwyster CPCP (Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth). Fodd bynnag, mae’r corff llywodraethwyr yn fodlon ystyried ceisiadau o athrawon brwdfrydig sy’n awyddus i dderbyn secondiad i’r ysgol er mwyn datblygu ei gyrfa ymhellach. Byddai disgwyl iddynt ymgymryd â’r hyfforddiant ar gyfer gymhwyster CPCP yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r hysbyseb yma ar gyfer swydd Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Llannon ac mae’n hanfodol bod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Person Specification
Note: We reserve the right to extend the application closing date
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.