The following advert is for a full time permanent Head Teacher post, where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae Ysgol Gynradd Talgarreg yn ysgol boblogaidd sy’n gwasanaethu pentref gwledig mewn ardal amaethyddol gan gyflawni amgylchedd Cymreig, gofalgar, cynhwysol, llawn parch o’r radd flaenaf. Daw mwyafrif o'r disgyblion o gartrefi lle mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf ac mae’r ysgol yn rhan ganolog o’r gymuned.
Mae rhyw 50 o ddisgyblion yn yr ysgol ac mae tîm bach effeithiol o athrawon a staff cefnogi yn cynorthwyo pob disgybl i ddysgu a datblygu i’w llawn botensial.
Mae’r Llywodraethwyr am benodi Pennaeth a all adeiladu ar y cryfderau presennol a bod yn agored i syniadau newydd a sicrhau bod yr ysgol yn paratoi ei disgyblion ar gyfer byd sy’n newid o’u cwmpas. Mi fydd gan y Pennaeth ymrwymiad dysgu o tua 0.8.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos gwybodaeth a phrofiad perthnasol o gyflwyno rhagoriaeth addysgu; dysgu ac asesu effeithiol; y datblygiadau diweddaraf mewn addysg Gymraeg a datblygiadau tebygol yn y dyfodol; datblygu a rheoli timau uchel eu perfformiad; datblygiad proffesiynol staff, rheoli perfformiad, datblygu strategaeth, gweithredu a gwerthuso, rheoli cyllidebau; cynllunio a dyrannu adnoddau; a datblygu perthynas gadarn a chefnogol gyda rhieni, Llywodraethwyr, y Cyngor Sir, y gymuned leol a chyrff eraill. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ymrwymiad cadarn i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.
Yn ychwanegol at y gofynion hyn, mae’r ysgol a’i Llywodraethwyr yn rhoi pwysigrwydd mawr ar:
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd yn ceisio am eu swydd Pennaeth parhaol gyntaf feddu ar gymhwyster CPCP (Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth).
Dyddiad cychwyn: 1af o Fedi 2020, neu cyn gynted â phosib wedi hynny.
Am fanylion pellach, cysylltwch ag Ymgynghorydd Her yr ysgol, Mr Dafydd Iolo Davies ar dafydd.iolo.davies@ceredigion.gov.uk (01970 633676).
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw’r 9fed o Fehefin, 2020 a chynhelir y cyfweliadau yn ddigidol trwy gyfrwng Zoom, ar 18fed o Fehefin, 2020.
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn a bydd yr ysgol yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Job Description and Person Specification
Note: We reserve the right to extend the application closing date.
Safeguarding and child protection are key priorities for us. We aim to support vulnerable children and young people to ensure they are as safe as they can possibly be. We and our educational establishments acknowledge that children and young people have a right to protection and will take action to safeguard their welfare. Each member of staff and volunteer is expected to share this commitment, and we will require an Enhanced Check by the Disclosure and Barring Service (DBS), formerly CRB.