Below is information about the above role where the ability to communicate through the medium of Welsh is essential.
Swydd Llawn amser, Parhaol
Nifer y disgyblion: 404 Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn awyddus i benodi athro / athrawes ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dim egniol a gweithgar i ymgymryd a dyletswyddau addysgu yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd yma.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch a'r Pennaeth Mr Clive Williams ar 01970 617613 neu ebost prif@ysgolgymraeg.ceredigion.sch.uk
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel a phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.